Cyfweliad / Interview

Ddaru’r rhaglen ‘cylchgrawn’ sy’n cael i’w ddarlledu at S4C; Y Lle ddod draw i Double Negative i siarad gyda fi am yr holl bethau dani wedi bod yn gweithio ar, yn cynnwys fy ngwaith i DNegTV, be yn union dwi’n ‘i neud fel animeiddiwr bob dydd, ag am ychydig o daith o amgylch yr adeilad hynod wych sy gynom ni yn Double Negative.

Dyma’r tro cyntaf imi neud ffasiwn beth – ond roedd hi’n rili cŵl. Ddaru ‘Y Lle’ neud joban go wych yn editio o gwmpas fi’n ffafflo – a dwi’n meddwl ddoth o allan fel darn bach difyr iawn! Diolch Y Lle!

For those who wants to see me give a tour of Double Negative, and speak Welsh – the show ‘Y Lle’ has gone ahead and uploaded my interview/tour to Youtube! I talk about what we do at Double Negative, and what I personally do at DNegTV, especially on the show I helped to animate; ‘Fungus the Bogeyman’, and ‘Braindead’.

Syr Wynff a Plwmsan

'Intro' Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (Hanner Dwsin)

Pam roeddwn i yn hogyn bach, roedd ‘na ddau gymeriad ar S4C roeddwn i wrth fy modd gyda. Dwi’n cofio eistedd yn rheolaidd o flaen y teledu i wylio’r ddau gymeriad, ac yn edrych ymlaen i weld syt fath o drwbl roedd y ddau am am fod i fewn ynddi, y ddau yma oedd, Syr Wynff a Plwmsan.

Syr Wynff a Plwmsan
Syr Wynff, Fi, Plwmsan a Celfyn (fy mrawd) - Eisteddfod yr Urdd 1990

Hyd heddiw, dwi’m yn meddwl does na dim byd gwell wedi cael i ddangos ar S4C, (‘C’mon Midffild’ yn agos ) a wrth ddweud hynny, does na ddim llawer o gyfresi yn y byd sy’n dod yn agos i faint roeddwn i’n mwynhau gwylio antics y ddau yma. Hyd heddiw, mi dwi dal i fwynhau eistedd yn ol, a ail wylio’r rhagleni. Mi gennai gasgliad go lew o’r Anturiaethau, ond, wrth ddweud hyny, mae’n hen bryd i Sain (neu rhiwyn) rhyddhau fwy o’r anturiaethau ar DVD.

Ma bron iawn i bob bennawd yn ymwneud a Syr Wynff yn cael syniad gwych o syt i fod yn Filiwnydd, ag yna yn mynd ati i drio llwyddo hefo help ‘i ffrind, Plwmsan. Wrth gwrs, bob tro, mae’nt yn methu gyda canlyniadau catastroffig. Maen’t yn gyfrifol am ddod a llwythi o ddyweddiadau gwych i’r Iaith Gymraeg, fel ‘Râslas bach â mawr’, ‘Slepjan’, ‘Oh hysh y sŵnyn’, ‘Oh Wynff be?!’

Fi a Wynford Ellis Owen
Fi a Mici Plwm

Dyddiau hyn, mi dwi’n ffrindiau da hefo’r ddau, ag yn cadw mewn cysylltiad yn aml. Mae’r ddau’n ffantastic, ac mae’n bleser cael wedi dod ‘i nabod y ddau drost y blynyddoedd. Mae gennai hefyd bob fath o femorabilia dwi wedi ‘i gael gan y ddau drost y blynyddoedd, o hen lyniau, i crysa-t Plwmsan, lyniau wedi ‘i fframio ag, Y motorbeic:

Fi a'r Motorbeic

Wel! Ar ôl 22 mlynedd o heb fod ar y sgin, mae’r ddau yn ol – hefo Syr Wynff a Plwmsan 2. Dyma linc i’r trêlyr ar wefan y sioe newydd ‘Ddoe am Ddeg’:

Syr Wynff a Plwmsan 2

Mae’n wych gweld y ddau’n ol, a dwi’n rili edrych ymlaen cael gweld be sydd yn mynd i ddigwydd yn y sketches newydd ‘ma. Os di’r trêilyr rhiwbeth i ymwneud a’r peth – allai’m disgwyl!!

Mi dwi hefyd am drio gweithio ar broject bach yn ymwneud a’r ddau gymeriad yma, ac yn yr wythnosau dwytha, dwi wedi bod yn gweithio’n galed arni – mi wnai bosdio fwy o wybodaeth yn y man.

Os dachi ar Twitter, yna dilynwch fy nhudalen Twitter Syr Wynff a Plwmsan yma: @SyrWynffaPlwmsan

@SyrWynffPlwmsan
Ddraig Twitter Cymreig -gan Geoff (Foomandoonian)

Mi dwi hefyd wedi dechrau arni i rhannu fy wybodaeth ar  Wicipedia am Syr Wynff a Plwmsan. Darllenwch amdanynt yma: Syr Wynff a Plwmsan Wicipedia